OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2011 Rhif (Cy. )
amaethyddiaeth, CYMRU
Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010.
Mae erthygl 2 yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Mesur drwy amnewid y tablau ynghylch yr elfennau ym mharagraff 5 a 6.
Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar yr effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes ac ar y sector gwirfoddol.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2011 Rhif (Cy. )
amaethyddiaeth, CYMRU
Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011
Gwnaed ***
Yn dod i rym 1 Ebrill 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer pwerau a roddwyd gan adrannau 5(4) ac 17 o Fesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010([1]).
Gosodwyd drafft o'r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Ebrill 2012.
Diwygiadau i Atodlen 2 i'r Mesur
2. Mae Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Mesur wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(1) Ym mharagraff 5 o'r Atodlen yn lle'r tabl a geir yno rhodder y tabl a ganlyn—
“Anifail |
Cyfradd uchaf yr elfen gynhyrchu ar gyfer pob anifail |
Gwartheg |
£ 6.91 |
Lloi |
£ 0.50 |
Defaid |
£ 1.00 |
Moch |
£ 1.67“. |
(2) Ym mharagraff 6 o'r Atodlen yn lle'r tabl a geir yno rhodder y tabl a ganlyn—
“Anifail |
Cyfradd uchaf yr elfen gigydda neu allforio ar gyfer pob anifail |
Gwartheg |
£ 2.12 |
Lloi |
£ 0.50 |
Defaid |
£ 0.32 |
Moch |
£ 0.40“. |
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad